Y polisi ar hyn o bryd a sut y bydd yn datblygu yn y dyfodol
Nid yw’r pŵer i reoleiddio gamblo wedi'i ddatganoli a chaiff ei reoli gan Ddeddf Gamblo 2005 , sy'n darparu fframwaith rheoleiddio ar gyfer y diwydiant. Ar hyn o bryd, mae’r Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn cynnal Adolygiad o Beiriannau Hapchwarae a Mesurau Cyfrifoldeb Cymdeithasol, a nod hwn yw penderfynu a oes angen newidiadau i sicrhau’r cydbwysedd priodol rhwng twf cymdeithasol cyfrifol a diogelu defnyddwyr a’r gymuned ehangach ac, os felly, sut fath o newidiadau sydd eu hangen. Mae’r adolygiad yn cynnwys pennu uchafswm y gellid ei gamblo a nifer y peiriannau hapchwarae a ganiateir. Mae adroddiad (PDF 958 KB) a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan y Grŵp Seneddol Hollbleidiol ar Beiriannau Betio Ods Sefydlog (FOBT) wedi galw ar Lywodraeth y DU i ostwng yn sylweddol yr uchafswm y gellir ei fentro o’r £100 presennol i £2. Mae Llyfrgell Tŷ'r Cyffredin wedi cyhoeddi papur briffio ar beiriannau betio ods sefydlog, sy'n crynhoi'r materion yn ymwneud â’r dull penodol hwn o gamblo. Mae Adran 58 o Ddeddf Cymru 2017 yn datganoli cymhwysedd deddfwriaethol mewn perthynas â pheiriannau hapchwarae a awdurdodir drwy drwydded safle betio newydd lle yn y cyfnod adrodd yn Nhŷ’r Arglwyddi oedd hyn. Yn ystod y Ddadl yn Nhŷ'r Arglwyddi, croesawyd y pwerau newydd er bod rhai Arglwyddi o'r farn nad oedd y newidiadau yn mynd yn ddigon pell ac y dylid datganoli cymhwysedd ar gyfer peiriannau nad oeddent yn caniatáu i neb fetio mwy na £2. Mewn tystiolaeth i Bwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad wrth iddo graffu ar y Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru), dywedodd cynrychiolwyr iechyd y cyhoedd mai peiriannau FOBT oedd 'crac cocên’ y diwydiant hapchwarae. Mae'n bwysig cofio, fodd bynnag, mai dim ond un math o gamblo yw hwn o blith llawer. Er enghraifft, mae rhai wedi galw am fwy o reolaeth dros fetio ym myd pêl-droed. Mae gamblo ar-lein yn cynyddu hefyd, a derbynnir bod hyn yn anoddach i’w reoleiddio . Er mai pwerau cyfyngedig sydd gan Gymru o ran rheoleiddio gamblo, mae bod yn gaeth i gamblo’n cael ei gydnabod fwyfwy fel mater sy’n peri pryder ym maes iechyd y cyhoedd. Er enghraifft, yn ôl Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, mae bod yn gaeth i gamblo’n broblem sy’n dod yn gynyddol amlwg. Mae ei adroddiad, sef New and Emerging Threats to the Health of rhe Gwent Population (PDF 4.9 MB), a gyhoeddwyd yn 2014, yn awgrymu bod gweithwyr iechyd proffesiynol sy'n gweithio yn y gwasanaethau gofal sylfaenol, ynghyd â gwasanaethau iechyd meddwl a gofal cymdeithasol, i gyd yn bwysig iawn yn y broses o roi diagnosis a chyfeirio pobl at wasanaethau a all eu cynorthwyo. Yn yr un modd, ymhlith argymhellion adroddiad yr IPRR uchod, nodir y dylid manteisio ar gyfleoedd i sgrinio pobl am broblemau gamblo pan fyddant yn dod i sylw gwasanaethau rheng flaen a dylid hyfforddi gweithwyr proffesiynol i adnabod problemau gamblo pan fo modd.Diagnosis a thriniaeth
Gellir cael gwybodaeth gyffredinol am fod yn gaeth i gamblo ar wefan Galw Iechyd Cymru. Mae gwefan NHS Choices yn cynnwys rhywfaint o wybodaeth am fod yn gaeth i gamblo ac am y triniaethau sydd ar gael. Cyn dechrau unrhyw driniaeth, mae’n hanfodol bod yr unigolyn yn derbyn bod problem, ac mae pedair ffordd i bobl gael y driniaeth honno:- Eu cyfeirio’u hunain;
- Cael eu cyfeirio gan feddyg teulu;
- Clinigau preifat;
- Cael eu cyfeirio agn y Llys.
- Cynghori / Cwnsela*
- Seicotherapi;
- Therapi gwybyddol-ymddygiadol;
- Gofal preswyl
- Ffarmacotherapi;
- Cyfuniadau o'r uchod.
Gwaith ar y gweill?
Trafodwyd problemau gamblo yn y Cyfarfod Llawn yn y 4ydd Cynulliad, pan alwyd ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu a gweithredu strategaeth i fynd i'r afael ag effaith gymdeithasol gamblo a’i effaith ar iechyd. Mewn ateb i gwestiwn ar 28 Mehefin 2016 am yr hyn a oedd yn cael ei wneud i ymdrin â gamblo, dywedodd y Prif Weinidogmae'n hynod o bwysig bod pobl yn gweld gamblo fel rhywbeth y mae pobl yn gaeth iddo, yn yr un ffordd ag y mae pobl yn gweld alcohol fel rhywbeth y mae pobl yn gaeth iddo, fel y mae cam-ddefnyddio cyffuriau penodol yn rhywbeth y mae pobl yn gaeth iddo, mae'n hynod o bwysig gyda gamblo hefyd. Rydym ni’n ystyried ffyrdd y gallwn ni sicrhau, trwy gyfrwng ein system addysg, bod pobl yn deall peryglon gambloMewn nifer o ymatebion i ymgynghoriad Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y Cynulliad, tynnwyd sylw at y ffaith nad yw problemau gamblo wedi cael digon o sylw, ac y dylid ystyried y broblem o safbwynt iechyd y cyhoedd. Yn yr Unol Daleithiau, roedd rhai ymchwilwyr yn gofyn i safbwynt o’r fath gael ei fabwysiadu ugain mlynedd yn ôl ac mae gan Weinyddiaeth Iechyd Seland Newydd, er enghraifft, ddyletswydd statudol i gydlynu gwasanaethau sy’n ymdrin â phroblemau gamblo. Mae’n bosibl bod lle i’r sector iechyd yma yng Nghymru gymryd rhan fwy blaenllaw yn yr ymdrech i ymdrin â’r broblem.
Erthygl gan Piotr Wegorowski, Gwasanaeth Ymchwil Cynulliad Cenedlaethol Cymru Mae'r Gwasanaeth Ymchwil yn cydnabod y gymrodoriaeth seneddol a roddwyd i Piotr Wegorowski gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau, a alluogodd i'r erthygl hon gael ei chwblhau. Mae’r erthygl hon hefyd ar gael fel dogfen PDF i’w hargraffu: Bod yn gaeth i gamblo – mater iechyd y cyhoedd? (PDF, 221KB)